SL(6)450 Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2024 

Cefndir a Diben

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”). Mae adrannau 26 i 32 o Ddeddf 2014 yn rhoi swyddogaethau disgyblu i’r Cyngor mewn perthynas â phersonau sydd wedi’u cofrestru yn y gofrestr a gynhelir gan y Cyngor (“person cofrestredig”).

Mae Rhan 5 o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (“y Prif Reoliadau”) yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â swyddogaethau disgyblu’r Cyngor. Yn benodol, mae rheoliad 26 o Ran 5 o’r Prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag aelodaeth a gweithdrefn y Pwyllgor Ymchwilio a’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer a sefydlwyd gan y Cyngor. Yn benodol, mae paragraff (1) o reoliad 26 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor benodi aelod sy’n berson cofrestredig i bob un o’r pwyllgorau hynny (“aelod sy’n berson cofrestredig”). Diffinnir aelod sy’n berson cofrestredig ym mharagraff (6)(b) o reoliad 26 o’r Prif Reoliadau.

Mae rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio testun Saesneg y Prif Reoliadau er mwyn cywiro gwall gramadegol yn enw'r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer. Diwygir enw’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn y testun Saesneg o’r “Fitness to Practice Committee” i’r “Fitness to Practise Committee”. Mae rheoliad 2(3) o'r Rheoliadau hyn yn cywiro'r un gwall gramadegol yn yr unig gyfeiriad at y Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn Saesneg yn nhestun Cymraeg y Prif Reoliadau.

Mae rheoliad 2(4) o’r Rheoliadau hyn yn rhoi diffiniad newydd o aelod sy’n berson cofrestredig yn lle’r diffiniad presennol ym mharagraff (6)(b) o reoliad 26 o’r Prif Reoliadau. Effaith yr amnewidiad hwnnw yw na fydd yn ofyniad mwyach i’r aelod sy’n berson cofrestredig fod wedi’i gofrestru yn yr un categori â’r person cofrestredig sy’n destun yr achos disgyblu. Yn hytrach, dim ond mewn o leiaf un o’r categorïau cofrestru a nodir yn Nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 y mae angen i’r aelod sy’n berson cofrestredig fod wedi’i gofrestru.

Mae rheoliad 2(5) o’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall mewn croesgyfeiriad yn rheoliad 45(3)(b) o’r Prif Reoliadau.

Mae rheoliad 2(6) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraff 21 o Ran 1 o Atodlen 2 i’r Prif Reoliadau er mwyn cynnwys cyfeiriad at adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 (gwahardd cymryd rhan yng ngwaith rheoli ysgolion annibynnol).

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn rheoliad 2(4), mae’r diffiniad o “aelod sy’n berson cofrestredig” wedi’i ddiwygio drwy roi paragraffau newydd yn lle paragraffau (i) a (ii) o reoliad 26(6)(b) o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015.

Fodd bynnag, ym mharagraff (i) newydd, mae’n cyfeirio at “berson sydd wedi ei gofrestru...” ond mae’r testun presennol yn cyfeirio at “berson cofrestredig...”.

Mae hyn yn wahaniaeth sylweddol gan fod “person cofrestredig” yn derm diffiniedig yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015.

Felly, mae’n ymddangos y dylai’r term “person cofrestredig” fod wedi’i ddefnyddio hefyd ym mharagraff (i) newydd wrth ddiwygio ystyr “aelod sy’n berson cofrestredig”.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

13 Chwefror 2024